Ymateb y Llywodraeth i adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Reoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2018

Mewn ymateb i’r pwynt adrodd technegol, mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n mynd gyda’r Rheoliadau yn rhoi’r rhesymeg dros ddefnyddio’r weithdrefn gyfansawdd ac felly pam y mae’r Rheoliadau wedi eu gwneud yn Saesneg yn unig.

 

Mewn ymateb i’r pwynt adrodd ar ragoriaethau, mae benthyciadau yn cael eu rhoi ar gael i gefnogi myfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau addysg uwch dynodedig. Mae Rheoliadau 2009 yn darparu ar gyfer ad-dalu’r benthyciadau hynny i Drysorlys Ei Mawrhydi. Mae telerau’r ad-daliad wedi eu gosod er mwyn cydbwyso’r angen am enillion digonol i’r trethdalwr â’r angen i sicrhau ar yr un pryd nad yw benthyciadau yn ddatgymhelliad rhag ymgymryd ag addysg uwch. O bryd i’w gilydd, caiff y telerau ad-dalu eu hasesu er mwyn sicrhau bod y cydbwysedd hwn yn briodol. Bwriedir sicrhau bod ad-daliadau benthyciadau yn parhau i fod yn fforddiadwy, ac yn rhoi enillion rhesymol i’r trethdalwr.

Mae cymorth i fyfyrwyr israddedig yn wahanol i’r cymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig: mae lefel yr astudio yn wahanol ac mae natur y cymorth yn wahanol. Gall myfyrwyr israddedig wneud cais am fenthyciadau at ffioedd neu fenthyciadau cynhaliaeth ond mae’r cymorth benthyciadau i ôl-raddedigion yn daladwy fel cyfraniad at gostau dilyn yr astudiaeth honno. Hefyd, ni chaiff ffioedd sy’n daladwy mewn perthynas â chyrsiau ôl-radd eu rheoleiddio yn yr un ffordd â chyrsiau gradd. Mae uchafsymiau’r benthyciadau sydd ar gael yn wahanol hefyd.

Mae’r trothwy ad-dalu ar gyfer y rhai sy’n ad-dalu benthyciadau i israddedigion i godi i £25,000 tra bo’r trothwy yn parhau i fod yn £21,000 ar gyfer ad-dalu benthyciadau at radd feistr ôl-raddedig. I’r gwrthwyneb, mae israddedigion a chanddynt fenthyciad yn gwneud ad-daliadau sy’n gyfwerth â 9% o’u hincwm sy’n uwch na’r trothwy ad-dalu ond nid yw ôl-raddedigion a chanddynt fenthyciad ond yn gwneud ad-daliadau sy’n gyfwerth â 6% o’u hincwm sy’n uwch na’r trothwy ad-dalu. Bydd gan lawer o ôl-raddedigion a chanddynt fenthyciad ddyled o’u cyfnod fel israddedigion hefyd.

Mae ystadegau ar fyfyrwyr sy’n graddio o addysg uwch yn y DU yn dangos mantais economaidd glir i’r rhai sydd â chymwysterau ôl-radd o’u cymharu â’r rhai sydd â chymwysterau gradd yn unig. Roedd 81% o’r rhai a orffennodd gyrsiau ôl-radd yn 2015/16 mewn cyflogaeth (yn y DU neu dramor) o gymharu ag 68% o israddedigion, chwe mis ar ôl graddio. Roedd mwy na hanner y rhai a orffennodd gyrsiau ôl-radd yn 2015/16 ac a oedd mewn cyflogaeth lawnamser yn ennill cyflog blynyddol o £25,000 o leiaf, chwe mis ar ôl graddio, o gymharu â llai na 40% o’r rhai a orffennodd gyrsiau gradd. Mae’r polisi ad-dalu yn adlewyrchu amgylchiadau gwahanol israddedigion ac ôl-raddedigion.